Hoffech chi wneud
gwahaniaeth cadarnhaol i wasanaethau iechyd a bywydau pobl?
Mae Llywodraeth
Cymru am benodi rhagor o aelodau gwirfoddol i bob Cyngor Iechyd Cymuned yng Nghymru
ac i’r rhan fwyaf o bwyllgorau lleol, sy’n gweithredu ar sail ardaloedd
awdurdodau lleol.
Corff gwarchod annibynnol y cyhoedd yng Ngwasanaeth Iechyd
Gwladol Cymru yw’r Cynghorau Iechyd Cymuned. Maen nhw’n cynrychioli
buddiannau’r cyhoedd ac yn chwarae rhan bwysig o ran dylanwadu ar y ffyrdd o
gynllunio, cyflenwi a gwella gwasanaethau iechyd.
Gwirfoddolwyr
yw Aelodau’r Cynghorau Iechyd Cymuned a’u swyddogaeth
yw cadw eu llygaid a’u clustiau ar agor er budd cleifion a’r cyhoedd, gwrando
ar eu pryderon a gweithio gyda’r gwasanaeth iechyd i wella ansawdd gofal i
gleifion.
Rydym yn chwilio am bobl o bob cefndir – y gofyniad pwysicaf yw bod
gennych ddiddordeb gwirioneddol mewn gwella gwasanaethau iechyd yn eich
cymuned. Byddai’r sgiliau canlynol yn ddefnyddiol: diddordeb mewn materion iechyd
lleol a dealltwriaeth ohonynt; y gallu i weithio mewn tîm a gyda phobl o gefndiroedd
amrywiol; a’r gallu i wrando ar eraill a rhannu barn.
